Jump to content

Uned Atal Trais a Heddlu De Cymru yn lansio ymgyrch i atal troseddau cyllyll

Delwedd yn dangos logo #DdimYrUn

Mae Uned Atal Trais Cymru wedi ymuno â Heddlu De Cymru i addysgu pobl ifanc am ganlyniadau cario cyllell.

Dangosodd adborth o sgyrsiau gyda phobl ifanc mewn ardaloedd o Dde Cymru lle mae troseddau yn ymwneud â chyllyll wedi digwydd amlaf, mai rhoi gwybod i athro, rhiant neu aelod o'r gymuned y maent yn ymddiried ynddynt fydd y rhai sydd â phryderon am droseddau cyllyll fwyaf tebygol o'i wneud.

Bydd yr ymgyrch ymyrraeth gynnar yn addysgu bechgyn ifanc rhwng 11 a 16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell, gan ddarparu pecyn gwybodaeth addysgol i athrawon, rhieni, ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt.

Mae deunyddiau'r ymgyrch yn cynnwys cwisiau, cynlluniau gwersi a thaflenni ffeithiau, yn ogystal â thri fideo sy'n dangos canlyniadau gwirioneddol, peryglus a dinistriol cario cyllell. Mae'r gyfres ‘In Coverstaion’ yn cynnwys cyfweliadau â dau ddioddefwr troseddau yn ymwneud â chyllyll a rhiant dioddefwr troseddau cyllyll.

Os ydych yn rhiant, athro neu arweinydd cymunedol a bod gennych bryderon am gario cyllyll neu droseddau'n ymwneud â chyllyll, gallwch lawrlwytho'r holl adnoddau o wefan yr ymgyrch: www.nottheone.co.uk