Jump to content

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud

Gwerthusiad Cam Un #DiogelIDdweud: Annog Pobl i Weithredu Pan Fyddant yn Dyst i Drais

Mae gwerthusiad o ymgyrch #DiogelDweud Uned Atal Trais Cymru wedi canfod iddi fod yn ddull effeithiol o ymgysylltu â phobl i atal aflonyddu rhywiol a thrais liw nos trwy rymuso tystion i weithredu pan fyddant yn ei weld.

Roedd yr ymgyrch, a ddatblygwyd gydag Ymgyrch Good Night Out a chefnogaeth gan Cymorth i Ferched Cymru, yn dangos senarios lle'r oedd y rhai a oedd yn dystion yn codi eu llais yn erbyn aflonyddu rhywiol mewn modd diogel, naill ai drwy gefnogi'r dioddefwr neu dorri ar draws neu dynnu sylw'r troseddwr.

Mae'r gwerthusiad diweddar yn cwmpasu Cam Un #Diogel Dweud, a gynhaliwyd rhwng mis Mehefin a mis Gorffennaf 2021 yng Nghaerdydd ac Abertawe. Dangosodd y gwerthusiad fod Cam Un #DiogelDweud wedi bodloni ei holl amcanion drwy wella ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol yn yr economi liw nos ac annog y rhai sy'n dystion i ymddwyn mewn modd cymdeithasol cadarnhaol wrth ymateb.

“Mae atal trais yn erbyn menywod a merched yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac mae wedi bod ers i mi ddod yn Gomisiynydd. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, ond mae'r bygythiadau'n parhau i fod yn real ac yn newid drwy'r amser, felly, mae'n rhaid i ni ymdrechu'n barhaus i leihau'r bygythiadau, yr aflonyddwch a’r trais a brofir gan fenywod a merched. Mae'n rhaid herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol, nid eu goddef, ac mae hynny yn arbennig yn wir am yr economi liw nos ac ar y cyfryngau cymdeithasol – dau amgylchedd lle gall rhai pobl deimlo bod ganddynt hawl i wneud fel y mynnant. Mae hynny'n anghywir, ac yn y ddau achos, rydym yn annog y rhai sy'n dyst i ymddygiad o'r fath nodi a herio'r ymddygiad drwg hwn – gan ddod o hyd i ffyrdd o wneud hynny heb roi eu hunain mewn perygl hefyd.

“Mae ymgyrch #DiogelDweud Uned Atal Trais Cymru yn cefnogi'r dull hwn drwy ddeall yr effaith bwerus y gall teuluoedd, ffrindiau, cydweithwyr a chydnabod ei chael ar unigolion drwy herio eu hymddygiad. Rwy'n falch iawn fod y gwerthusiad wedi dangos llwyddiant yr ymgyrch yn gwella ymwybyddiaeth o aflonyddu rhywiol a helpu pobl i nodi ymddygiadau rhywiol niweidiol, drwy ddarparu'r sgiliau a'r hyder iddynt, ar yr un pryd, i herio materion y gallent ddod ar eu traws mewn ffordd ddiogel. Mae'n rhaid i ni ymdrechu i wneud mwy ac edrychaf ymlaen at weld yr ymgyrch hon yn ymestyn ei chwmpas a'i heffaith ledled ein cymunedau, gan barhau i gyfrannu ymhellach at ddiogelwch menywod a merched yn Ne Cymru.”

Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru, Alun Michael

Er y gwyddom nad yw bywyd nos yn achosi trais rhywiol, mae llawer o ffactorau’n gysylltiedig ag ef, megis gorlenwi ac yfed alcohol a all waethygu'r amodau lle bydd trais rhywiol yn digwydd.

“Gall grymuso pobl i weithredu pan fyddant yn dystion i aflonyddu neu jôcs rhywiaethol wedi’u hesgusodi fel “cellwair” fod yn ffordd effeithiol o'i atal rhag gwaethygu i fathau mwy difrifol o drais, megis ymosodiad rhywiol.

“Gyda’r ymgyrch hon, gwnaethom geisio newid agweddau pobl am yr hyn sy’n cael ei ystyried yn aflonyddu, er mwyn atal trais cyn iddo ddigwydd.”

Jon Drake, Uned Atal Trais Cymru

Defnyddiwyd canfyddiadau ac argymhellion o'r gwerthusiad hwn yng Ngham Dau ymgyrch #DiogelDweud, a oedd yn canolbwyntio ar ymyriadau cymheiriaid, gan ddynion rhwng 18-35 oed. Cynhaliwyd cam hwn yr ymgyrch rhwng mis Chwefror a mis Mawrth yn Abertawe, a bydd y gwerthusiad ar gael yn fuan.

Lawrlwytho'r Adroddiad