Jump to content

Lansio Offeryn Newydd i Wella Cydweithrediad a Dadansoddi Data

Image reads: Digwyddiad Lansio Porth Atal Trais Cymru

Lansiwyd Porth Atal Trais Cymru heddiw, ar 23 Mawrth 2023.

Y Porth yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru, ac mae wedi cael ei ddatblygu gan Uned Atal Trais Cymru, mewn partneriaeth â Sefydliad Iechyd Cyhoeddus, Prifysgol John Moores Lerpwl.

Mae'r llwyfan digidol yn cynnwys data dienw ar drais yng Nghymru, ac yn galluogi defnyddwyr i gydgasglu a defnyddio gwahanol ffynonellau data drwy ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau gan gynnwys graffiau, siartiau, tablau, adroddiadau a mapiau rhyngweithiol o ardaloedd lleol a chenedlaethol.

Mae gan y Porth y gallu i wella cydweithrediad amlasiantaethol i atal trais, drwy alluogi defnyddwyr i gael mynediad at ddata lleol a chenedlaethol o sawl ffynhonnell a'u cymharu, gan gynnwys data ar iechyd a'r heddlu, i lywio arferion gweithredol a strategol.

“Un o flaenoriaeth pennaf Uned Atal Trais Cymru yw datblygu'r dasg o rannu a dadansoddi data amlasiantaeth i wella ein cyd-ddealltwriaeth o drais, fel sy'n cael ei ddangos drwy System Gwyliadwriaeth a Dadansoddi Trais Cymru, ac wedi hynny ein Hadroddiadau Monitro Trais.

“Mae Porth Atal Trais Cymru yn cymryd y gwaith hwn gam ymhellach, gan roi'r gallu i bartneriaid lunio ar sawl ffynhonnell leol a chenedlaethol yn annibynnol ar unrhyw adeg.

“Bydd yr offeryn hwn yn amhrisiadwy i sefydliadau sy'n darparu asesiadau o anghenion strategol a strategaethau ymateb ar gyfer trais yn eu hardaloedd lleol, fel rhan o'r Ddyletswydd Trais Difrifol newydd.”

Dan Jones, Pennaeth Uned Atal Trais Cymru

Ar hyn o bryd mae'r Porth yn casglu data ynghyd o sawl ffynhonnell, gan gynnwys derbyniadau i'r ysbyty a data ar alwadau am ambiwlans ar gyfer Cymru, ac achosion o ymweld ag adrannau brys oherwydd ymosodiadau a data troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu ar gyfer De Cymru.

Bydd y Porth yn parhau i ddatblygu wrth i fwy o ddata ddod ar gael. Os oes gan eich sefydliad ddata ar drais, cysylltwch â ni i archwilio opsiynau iddynt gael eu rhoi ar y Porth, i wella dealltwriaeth partneriaid o drais yn eu meysydd.

Image shows a purple line

Mae Porth Atal Trais Cymru ar gael i bob person proffesiynol sydd angen deall tueddiadau trais yng Nghymru, yn enwedig dadansoddwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus. Rhaid i ddefnyddwyr wneud cais drwy gofrestru drwy gyfrif e-bost swyddogol sy'n ymwneud â'r gwaith. Ni chaniateir mynediad i ddefnyddwyr drwy gyfeiriad e-bost personol. Cliciwch yma i gofrestru ar gyfer mynediad