Jump to content

Datblygu Fframwaith ar gyfer Atal Trais Ymhlith Plant a Phobl Ifanc

Mae Uned Atal Trais Cymru yn gweithio gyda Peer Action Collective Cymru ar Fframwaith Strategol ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru.

Bydd y fframwaith, a gafodd ei gyd-gynhyrchu gyda phobl ifanc, yn llywio'r dull gweithredu aml-asiantaeth i gefnogi'r gwaith o atal trais ymhlith plant a phobl ifanc. Caiff ei gynllunio i helpu ardaloedd lleol i gyflawni eu cyfrifoldebau statudol o dan y Ddyletswydd Trais Difrifol newydd.

Bydd y fframwaith yn ganllaw i gamau strategol ar atal trais, gan godi lleisiau'r bobl ifanc a darparu tystiolaeth am yr ‘hyn sy'n gweithio’ i atal trais ymhlith pobl ifanc. Yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori helaeth, byddwn yn sicrhau bod y Fframwaith yn adlewyrchu safbwyntiau gweithwyr proffesiynol, er mwyn iddo allu llywio gweithgarwch lleol.

“Mae gweledigaeth a dull gweithredu a rennir ar gyfer atal trais ymhlith plant a phobl ifanc yn hanfodol. Pobl ifanc sy'n wynebu'r risg fwyaf o brofi trais, ac maent yn fwyaf tebygol o brofi sawl math o drais rhyngbersonol. Fodd bynnag, gwyddom fod modd rhagweld ac atal trais, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod dulliau atal yn fwyaf effeithiol pan gânt eu rhoi ar waith gyda phlant a phobl ifanc.

“Bydd y fframwaith hwn yn canolbwyntio ar atal yn gynnar, ac yn cefnogi partneriaid cyflawni, comisiynwyr a gwneuthurwyr polisi i wneud penderfyniadau a chynllunio gweithgareddau gyda'r nod o atal trais ymhlith plant a phobl ifanc.”

Dywedodd Lara Snowdon, Arweinydd Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Er mwyn i’r fframwaith weithio i Gymru, rhaid iddo gael ei lywio gan brofiadau a syniadau plant a phobl ifanc, a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio i atal trais ac ymateb iddo. Byddwn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau drwy'r hydref ac yn lansio ymgynghoriad ar-lein – ystyriwch ymuno â ni mewn digwyddiad neu ymateb i'r ymgynghoriad er mwyn rhannu eich safbwyntiau a hysbysu'r Fframwaith!


Bydd rhagor o fanylion ar gael yn fuan – dilynwch @WalesVPU ar Twitter i gael y wybodaeth ddiweddaraf.