Jump to content

Prif bwyntiau'r ymchwil yn ymwneud ag effaith bosibl cyfyngiadau COVID-19 ar blant a phobl ifanc

Mae ymchwil hanfodol gan Uned Atal Trais Cymru yn tynnu sylw at yr angen am ymyriadau cynnar, gwybodaeth hygyrch a chyllid cynaliadwy parhaus ar gyfer gwasanaethau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc wrth i Gymru ailagor.

Wrth i'r wlad roi ei chynllun adfer yn sgil y pandemig ar waith, mae'r rhan fwyaf ohonom yn mwynhau rhywfaint o normalrwydd unwaith eto. Fodd bynnag, i blant a phobl ifanc, gallai'r cyfyngiadau yr oedd eu hangen i reoli COVID-19 gael effaith barhaus a dinistriol o bosibl ar eu hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol.

Mae'r ymchwil, a gwblhawyd gan Uned Atal Trais Cymru gyda chyllid gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn tynnu sylw at y ffordd y mae COVID-19 wedi arwain at nifer o heriau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys newidiadau i arferion bob dydd, tarfu ar addysg a llai o gyfleoedd i fanteisio ar wasanaethau cymorth a gweithgareddau cymdeithasol. Mae'r dystiolaeth yn dangos bod yr heriau hyn, ynghyd â ffactorau eraill megis bywyd cartref a phryderon am lesiant a oedd yn bodoli eisoes, yn debygol o fod wedi cynyddu'r risg o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, yn arbennig ymhlith y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf agored i niwed.

“Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn i lawer o bobl, ac mae'n amlwg bod cyfyngiadau COVID-19 yn debygol o fod wedi cael effaith andwyol ar blant a phobl ifanc.

“Mae'r adroddiad hwn yn dangos y bydd llawer ohonynt wedi wynebu risg uwch o brofi trais a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, gan gynnwys cam-drin domestig, cam-drin corfforol, hunan-niwed, cam-drin a cham-fanteisio rhywiol, a thrais ymhlith pobl ifanc. Yn yr un modd, mae pobl a oedd yn dioddef profiadau niweidiol cyn y pandemig yn debygol o fod wedi eu dioddef yn waeth yn ystod cyfnod y cyfyngiadau.

“Mae gan bawb yr hawl i fod yn ddiogel, ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud i sicrhau bod plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn cael eu diogelu rhag y bobl a'r profiadau a all beri niwed iddynt. Wrth i Gymru barhau i adfer, byddwn yn parhau i gydweithio â'n partneriaid i sicrhau na chaiff unrhyw blentyn na pherson ifanc ei adael ar ôl.”

Jonathan Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru

Mae'r adroddiad yn cynnwys data lleol, cenedlaethol a rhyngwladol sy'n dangos bod y ffactorau risg ar gyfer trais, megis amddifadedd, llai o ymgysylltu ag addysg a rhianta llai ymatebol, wedi cynyddu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig. Er enghraifft, er bod llinell gymorth yr NSPCC wedi cofnodi llai o alwadau yn ymwneud â cham-drin rhywiol yn gyffredinol, bu cynnydd yng nghanran y galwadau yn ymwneud â cham-drin rhywiol yng nghartref y plentyn ei hun yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, o gymharu â blynyddoedd blaenorol. Yn yr un modd, drwy gydol y cyfyngiadau, bu cynnydd yn nifer y galwadau i linellau cymorth cam-drin domestig gan oroeswyr â phlant, a chynnydd yn nifer y galwadau gan bobl ifanc sy'n dioddef cam-drin domestig yn eu perthynas.

Mae'r adroddiad yn nodi ystyriaethau allweddol i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Ymhlith y rhain mae canolbwyntio ar ymyrryd yn gynnar er mwyn helpu i ail-feithrin y cydberthnasau dibynadwy a oedd yn eisiau o bosibl yn ystod y pandemig a gwella'r ffordd rydym yn cyfathrebu â phlant a phobl ifanc er mwyn eu helpu i ddeall a lleddfu pryderon, ofnau a rhwystredigaeth am y feirws. Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal y cyllid presennol fel bod gan wasanaethau hanfodol yr adnoddau sydd eu hangen i gefnogi plant a phobl ifanc sy'n agored i niwed yn ystod y broses adfer yn sgil COVID-19, yn ogystal â'r angen am gynlluniau wrth gefn ar gyfer gwasanaethau a fyddai'n eu galluogi i ymateb yn gyflym i unrhyw achosion o bandemig yn y dyfodol heb orfod adleoli staff allweddol i ffwrdd o wasanaethau diogelu a chymorth hanfodol.

Dadlwythwch yr Adroddiad Llawn

Dadlwythwch y Crynodeb Gweithredol

Gweld y ffeithlun rhyngweithiol

Dadlwythwch yr ffeithlun rhyngweithiol (addas ar gyfer all-lein)