Mae ymchwil newydd dan arweiniad Consortiwm VISION wedi nodi gwahaniaethau yn nhueddiadau a nifer y dioddefwyr trais rhwng Cymru a Lloegr, gan ddefnyddio data o Arolwg Troseddau Cymru a Lloegr (CSEW).
Mae arolwg cyhoeddus blynyddol CSEW yn cofnodi gwybodaeth am droseddau treisgar, ac mae'n offeryn defnyddiol wrth ddeall profiadau o drais ochr yn ochr â data eraill, megis data gwasanaeth a ddarperir gan fyrddau iechyd, gan ei fod yn cofnodi gwybodaeth am drais hyd yn oed os nad oedd y dioddefwr wedi ceisio cymorth gan wasanaethau. Defnyddir canlyniadau'r arolwg gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i amcangyfrif nifer yr achosion o droseddau treisgar a’r newidiadau dros amser ar gyfer Cymru a Lloegr gyda'i gilydd. Ceisiodd yr astudiaeth ddiweddar hon, dan arweiniad Dr Polina Obolenskaya gyda chymorth gan gydweithwyr Consortiwm VISION gan gynnwys o'r Tîm Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru, ddeall a oedd gwahaniaethau yn nifer yr achosion a'r tueddiadau mewn trais rhwng Cymru a Lloegr, er mwyn cyfrannu at ddealltwriaeth o'r darlun o drais yng Nghymru er mwyn llywio strategaeth a pholisi atal trais yn well.
Mae gwahanu'r data yn ôl gwlad yn dangos bod nifer yr achosion o drais yn gyffredinol is yng Nghymru nag yn Lloegr yn ystod degawd cyntaf y ganrif. Cynhaliodd y tîm ymchwil ddadansoddiad yn ôl rhywedd hefyd, a ddatgelodd anghydraddoldebau pellach rhwng y gwledydd. Profodd dioddefwyr gwrywaidd yng Nghymru a Lloegr a dioddefwyr benywaidd yn Lloegr ostyngiad mewn trais rhwng 2002 a 2015. Fodd bynnag, ni welwyd gostyngiad mewn trais ymhlith dioddefwyr benywaidd yng Nghymru tan ar ôl 2016. Ar ben hynny, er bod cynnydd wedi bod yn nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod yn Lloegr ers 2015, bu gostyngiad yn y trais a brofwyd gan fenywod yng Nghymru ar ôl 2016. Mae'r gostyngiad hwn mewn trais yn erbyn menywod yng Nghymru yn digwydd yr un pryd â chyflwyno Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Yng Nghymru, mae'r ymchwil yn argymell y dylid defnyddio amcangyfrifon a thueddiadau trais penodol i Gymru i lywio cynllunio strategol.
“Mae trais yn bryder iechyd y cyhoedd, sydd â chostau unigol, economaidd, iechyd a gofal cymdeithasol sylweddol. Mae patrymau gwahanol o drais yng Nghymru a Lloegr yn dangos y gallai fod anawsterau wrth ddibynnu ar amcangyfrifon cyfun o drais ar gyfer Cymru a Lloegr wrth ddatblygu strategaethau a chynllunio ar gyfer atal trais yng Nghymru.
“Rydym yn edrych ymlaen at barhau â’r gwaith hwn gyda’n cydweithwyr a’n partneriaid yn VISION ledled Cymru a Lloegr i archwilio’r ffordd orau y gallwn ddatblygu argymhellion yr ymchwil.”
Lara Snowdon, Arweinydd Rhaglen Atal Trais, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Lawrlwythwch yr erthygl: Temporal trends in prevalence of violence in Wales: analysis of a national victimisation survey (sciencedirect.com) - nodwch mai dim ond yn Saesneg y mae'r erthygl ar gael.