Jump to content

Lansio Wythnos Weithredu Genedlaethol i Fynd i'r Afael â Throseddau Cyllyll

Ymgyrch i fynd i'r afael â throseddau cyllyll yw Ymgyrch Sceptre. Mae'r wythnos yn gyfle i Uned Atal Trais Cymru weithio gyda phartneriaid ym maes plismona i godi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd i atal troseddau cyllyll.

Drwy gydol yr wythnos weithredu, budd 43 o heddluoedd y DU yn cydlynu gweithgareddau i dargedu achosion sylfaenol troseddau cyllyll. Bydd ffocws ar elfennau gwahanol addysg, ymgysylltu, atal a gorfodi, y mae pob un ohonynt yn bwysig wrth i ni chwarae ein rhan i leihau troseddau cyllyll.

Mae Uned Atal Trais Cymru yn gweithio gyda Heddlu De Cymru i godi ymwybyddiaeth o beryglon cario cyllell, drwy eu hymgyrch #DdimYrUn.

Yn ôl data gan Heddlu De Cymru, dim ond 1 o bob 100 o bobl ifanc sy'n cario cyllell. Nod ymgyrch #DdimYrUn yw tynnu sylw at y nifer bach hwn, ac annog pobl ifanc i sicrhau nad nhw yw'r un hwnnw drwy dynnu sylw at y peryglon a'r effaith ar deulu a ffrindiau.

Yn ôl adborth o sgyrsiau â phobl ifanc mewn ardaloedd o Dde Cymru lle mae troseddau cyllyll wedi digwydd amlaf, ofn yw'r prif gymhelliad ymhlith y rhai sy'n cario cyllell. Dywedodd pobl ifanc hefyd pe bai ganddynt bryderon am droseddau cyllyll, y byddent fwy na thebyg yn dweud am hyn wrth athro, rhiant neu aelod o'r gymuned y gellir ymddiried ynddo.

Nod yr ymgyrch ymyrraeth gynnar yw addysgu pobl ifanc 11-16 oed am beryglon a chanlyniadau cario cyllell, drwy roi pecyn addysgol o wybodaeth i athrawon, rhieni ac oedolion eraill y gellir ymddiried ynddynt.

Mae deunyddiau'r ymgyrch yn cynnwys cwisiau, cynlluniau gwersi a thaflenni ffeithiau, yn ogystal â thri fideo sy'n dangos canlyniadau gwirioneddol, peryglus a dinistriol cario cyllell. Mae'r gyfres ‘In Conversation’ yn cynnwys cyfweliadau â dau ddioddefwr troseddau yn ymwneud â chyllyll a rhiant dioddefwr troseddau cyllyll.

“Ni ddaw dim byd da o gario cyllell, ac os byddwch yn cario cyllell, mae'n llawer mwy tebygol y bydd rhywun yn defnyddio un yn eich erbyn.

“Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo i wneud Cymru'n fwy diogel. Ond, er mwyn datrys y broblem, mae'n rhaid i bawb gymryd rhan. Os byddwch yn poeni am eich ymddygiad eich hun, neu ymddygiad ffrind neu rywun sy’n agos atoch, mae pobl ar gael i chi siarad â nhw 24/7, am ddim, i roi cyngor a chymorth cyfrinachol, heb farnu.”

Jason Herbert, Arweinydd yr Heddlu ar gyfer Uned Atal Trais Cymru

“Mae troseddau cyllyll yn cael effaith erchyll ar unigolion, teuluoedd a chymunedau. Yn ystod y pandemig, gwelsom lai o droseddau cyllyll, ac mae'n rhaid i ni adeiladu ar y momentwm hwnnw a pharhau i wneud ein strydoedd yn fannau diogelach.

“Bydd Ymgyrch Sceptre yn cynnal wythnos genedlaethol sy'n canolbwyntio ar droseddau cyllyll, a bydd heddluoedd o bob cwr o'r wlad yn cydweithio ag ysgolion, ysbytai, elusennau ac asiantaethau partner eraill, gan ddefnyddio pob tacteg sydd ar gael, i gadw cyllyll oddi ar ein strydoedd.

“Ni ddaw dim byd da o gario cyllell, ac mae'n amlwg nad yw cyllyll yn eich cadw'n ddiogel – dim ond eich peryglu eich hun yn fwy y byddwch wrth gario cyllell.

“Rydym am i'r rhai a all fod yn cario cyllell drwy ofn siarad ag oedolyn y gallant ymddiried ynddo fel un o swyddogion yr heddlu, gweithiwr ieuenctid, athro yn yr ysgol neu drwy ffonio Crimestoppers.”

Dirprwy Gomisiynydd Cynorthwyol Graham McNulty, arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu

Os ydych yn rhiant, yn athro neu'n arweinydd cymunedol sy'n poeni am bobl ifanc yn cario cyllyll neu droseddau cyllyll, gallwch lawrlwytho'r holl adnoddau o wefan yr ymgyrch: www.nottheone.co.uk

Os gwyddoch fod rhywun yn cario cyllell neu os ydych yn poeni y gall rhywun rydych yn ei adnabod fod yn cario cyllell, rhowch wybod i'r heddlu neu ffoniwch Crimestoppers ar 0800 555111.

Mewn argyfwng, ffoniwch 999.