Jump to content

Gwerthusiad yn canfod bod Ymyriadau yn yr Ysbyty yn Effeithiol wrth Gefnogi Cleifion gydag Anafiadau Cysylltiedig â Thrais

Mae'r llun yn dangos tudalen flaen yr adroddiad

Mae gwerthusiad o wasanaeth yn yr ysbyty sy'n unigryw i Gymru wedi canfod ei fod yn effeithiol wrth ddarparu mwy o gymorth i gleifion agored i niwed sy'n mynd i'r ysbyty gydag anafiadau cysylltiedig â thrais.

Lawrlwytho'r Adroddiad

Mae trais yn costio tua £205 miliwn y flwyddyn i'r GIG yng Nghymru, ac yn ei sgil, gall esgor ar gostau ofnadwy i'r unigolion, y teuluoedd a'r cymunedau sy'n ei brofi. Pan gafodd ei sefydlu yn 2019, comisiynodd yr Uned Atal Trais ymyriad newydd dan arweiniad nyrsys yn Ysbyty Athrofaol Cymru, ar y ddealltwriaeth fod yr Adrannau Brys yn cael cyfle unigryw i ymyrryd yn gynnar ac atal dioddefwyr trais rhag cael niwed eto.

Mae'r gwerthusiad o'r Tîm Atal Trais yn ystyried y ffordd y cafodd y gwasanaeth yn yr Adran Achosion Brys ei ddatblygu a'i roi ar waith, a natur a lefel y cymorth a ddarperir i gleifion gydag anafiadau cysylltiedig â thrais. Roedd y gwerthusiad yn cynnwys cyfweliadau â staff clinigol a gweithwyr proffesiynol eraill, er enghraifft, yr heddlu, yn ogystal â dadansoddiad o ddata'r gwasanaeth.

Canfu'r gwerthusiad fod y Tîm Atal Trais wedi cynyddu'r cymorth i gleifion agored i niwed sy'n mynd i'r ysbyty gydag anafiadau cysylltiedig â thrais. Mae'r tîm hefyd wedi gwella'r wybodaeth am drais ac ymwybyddiaeth ohono ymhlith gweithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio yn yr Adran Achosion Brys, gan arwain at fagu hyder y staff wrth ymateb i gleifion.

Mae'r Tîm Atal Trais yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn allweddol i'n cenhadaeth i atal trais yng Nghymru drwy ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd.

“Mae'r cymorth y mae tîm yr ysbyty a'r gweithiwr cymorth cymunedol yn ei roi i gleifion sy'n profi trais heb ei ail, a gall gefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed i fyw eu bywydau'n ddi-drais.

“Mae canfyddiadau'r gwerthusiad hwn yn allweddol wrth i ni uwchraddio'r ymyriad hwn i helpu mwy o bobl yng Nghymru. Rydym eisoes wedi cefnogi Ysbyty Treforys yn Abertawe i roi Tîm Atal Trais ar waith, a hynny gyda chyllid o'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid.”

Jon Drake, Cyfarwyddwr Uned Atal Trais Cymru

"Yng Nghymru, ers dros 25 mlynedd, mae ein dull o atal trais wedi ymwneud â deall pam fod trais yn digwydd, sut mae pobl yn troi'n ddioddefwyr a sut gall cydweithrediad rhwng proffesiynau a rhwng asiantaethau atal achosion yn y dyfodol.Mae gwrando ar ddioddefwyr yn hanfodol i lwyddiant, sy'n ategu at eglurdeb pwrpas, uchelgais gyffredin a phwyslais mawr ar gydweithrediad. Mae'r Tîm Atal Trais a leolir yn Ysbyty Athrofaol Cymru yn dangos ein hymrwymiad at arloesedd a gwaith partneriaeth newydd drwy atal trais yng Nghymru drwy ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd.

"Mae'r Tîm Atal Trais wedi ymgysylltu'n uniongyrchol â dioddefwyr sy'n agored i drais o fewn lleoliad gofal iechyd, gan ddarparu cymorth hanfodol a llwybr oddi wrth bod yn ddioddefwyr trais, sy'n galluogi iddynt wneud penderfyniadau positif i'r dyfodol ac atal eraill rhag fynd drwy'r un profiadau.

"Mae'r Adroddiad Gwerthuso yn nodi'n glir buddiannau'r dull hwn ac yn cefnogi datblygiad gwasanaethau tebyg ledled De Cymru a thu hwnt. Mae'n rhaid i hyn fod yn rhan arferol o fynd i'r afael â thrais ar draws ein cymunedau am ei fod yn hanfodol er mwyn helpu i wneud ein cymunedau yn ddiogel, hyderus a gwydn. Edrychaf ymlaen at gyflwyno'r dull hwn mewn ysbytai ledled Cymru."

Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru

Er i ymyriadau eraill yn yr ysbyty gael eu cyflwyno ar hyd a lled y DU, mae'r gwasanaeth hwn yng Nghymru yn unigryw am mai hwn yw'r gwasanaeth cyntaf dan arweiniad nyrsys i roi cymorth i blant a phobl ifanc sy'n rhan o drais. Bydd model yr Uned Atal Trais hefyd yn rhan o werthusiad ffurfiol Grŵp Ymchwil Trais, Prifysgol Caerdydd, a phartneriaid academaidd eraill a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd, y Bwrdd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus a'r Gronfa Gwaddol Ieuenctid. Bydd y gwerthusiad hwn yn asesu effeithiolrwydd a chosteffeithiolrwydd Timau Atal Trais.

Lawrlwytho'r Adroddiad