
Mae Bryony ac Emma o Uned Atal Trais Cymru (VPU) wedi cael cwpl o ddiwrnodau prysur yn y 13eg Gynhadledd y Clwb Iechyd Rhyngwladol! Mae'r gynhadledd hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr ar ddiogelu a hyrwyddo iechyd mewn lleoliadau bywyd nos, i rannu gwybodaeth a dysgu ac archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio.
Roedden ni wrth ein bodd bod tri chyflwyniad wedi’u derbyn eleni, i rannu mwy am sut rydyn ni a’n partneriaid yn adeiladu Cymru heb drais.
Cyflwynodd Bryony ar ein dull sy’n datblygu o ddefnyddio gwyddor ymddygiad i gefnogi gweithwyr proffesiynol sy'n gweithredu dull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae'r gwaith hwn wedi tyfu o ddau Gyfarfod Bwrdd a gynhaliwyd gennym yr haf diwethaf, ac rydym yn edrych ymlaen at rannu mwy o fanylion yn fuan!
Cliciwch yma i weld Fframwaith Cymru Heb Drais
Rhannodd Emma fwy am ein gwaith yn ymgysylltu dynion a bechgyn ag atal trais mewn dau gyflwyniad. Rhannodd fanylion am ein Pecyn Cymorth Ymgysylltu â Dynion a Bechgyn, a sut mae'n hanfodol adeiladu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio wrth ddatblygu a chyflwyno ymyriadau sy'n anelu at ymgysylltu â dynion a bechgyn. Cyflwynodd Emma ganfyddiadau hefyd o waith mewnwelediadau ymddygiadol a gomisiynwyd gennym ar gefnogi dynion fel gwylwyr rhag-gymdeithasol yn erbyn aflonyddu rhywiol yn yr economi nos.
Cliciwch yma i weld y Pecyn Cymorth
Roedd yn wych gweld mwy o gynrychiolaeth o Gymru, a oedd yn cynnwys gan gydweithwyr a Prifysgol Bangor a rannodd am eu cydweithrediad ymchwil diweddar â Iechyd Cyhoedddus Cymru a VPU Cymru ar brofiadau rhai sy’n dyst i drais yng Nghymru. Archwiliodd yr ymchwil hon ddarganfyddiadau o arolwg trawsdoriadol, Amser i Siarad am Iechyd y Cyhoedd, ar hyder a sgiliau pobl i ymateb wrth weld trais, a pharodrwydd i ymgymryd â hyfforddiant i bobl mewn sefyllfaoedd niweidiol.
Roedd y gynhadledd yn gyfle gwych i rannu gwybodaeth a mewnwelediad a ddatblygwyd trwy waith ymroddedig partneriaid ledled Cymru, a oedd yn cynnwys ein cydweithwyr a chyd-awduron y Fframwaith y a Pecyn Cymorth.
Mae Amser i Siarad Iechyd y Cyhoedd yn grŵp cenedlaethol cynrychioliadol o tua 2,500 o bobl o bob cwr o Gymru sy'n cefnogi gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cliciwch yma i ddarganfod mwy.