Yn ddiweddar, cyhoeddodd Plan International UK ‘State of Girls’ Rights in the UK 2024’ Mae'r adroddiad wedi'i lywio gan safbwyntiau merched ifanc, actifyddion ifanc ac yn canolbwyntio ar y ffordd y mae hawliau merched yn cael eu cydnabod yn y DU.
Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith nad yw merched na menywod ifanc yn teimlo'n ddiogel ar-lein nac all-lein, gan gynnwys 93% o ferched a menywod ifanc yn crybwyll nad ydynt yn teimlo'n “hollol ddiogel mewn mannau cyhoeddus.” Dim ond tua un o bob pum merch a nododd eu bod yn teimlo'n gwbl ddiogel mewn ysgol, coleg neu brifysgol, a dim ond un o bob 11 o ferched a menywod ifanc a ddywedodd eu bod yn teimlo'n gwbl ddiogel ar-lein.
Mae'r adroddiad yn nodi sut mae peidio â theimlo'n ddiogel wedi cadw menywod ifanc a merched rhag cymryd rhan yn y pethau y maent yn angerddol amdanynt, fel cymryd rhan mewn chwaraeon, cymdeithasu a hobïau. I rai merched, mae hyd yn oed wedi effeithio eu hawl i gael gwaith neu addysg. Mae dros hanner (62%) o ferched a menywod ifanc wedi osgoi gwneud rhywbeth am eu bod, naill ai wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol cyhoeddus, neu'n pryderu am hynny.
Mae adroddiad ‘State of Girls’ Rights in the UK 2024’ yn argymell bod angen gwneud gwaith yn ymwneud ag ymgysylltu â dynion a bechgyn er mwyn atal trais yn erbyn menywod a merched. Mae'r adroddiad hefyd yn argymell bod yn rhaid i arweinwyr gwleidyddol sicrhau bod mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a rhoi diwedd ar wahaniaethu wrth wraidd gweithredoedd y llywodraeth i sicrhau y caiff hawliau merched yn y DU eu diogelu.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad ar wefan Plan International UK: state-of-girls-rights-report.pdf (plan-uk.org)