Jump to content

COVID-19: Trais a chamdriniaeth ar-lein - plant a phobl ifanc

Wrth i fwy o bobl nag erioed weithio gartref ac wrth i lawer o blant ddefnyddio'r we at ddibenion addysg ac adloniant, mae mwy o risg o brofi trais a chamdriniaeth ar-lein.

​Os bydd angen help ar rywun ar unwaith, gellir deialu 999 a bydd yr heddlu yn ymateb. Os bydd angen help distaw ar rywun, gellir deialu 999 ac yna deialu 55 pan fydd y sawl sy'n ateb yr alwad yn dweud hynny.

​Os nad yw'n achos brys, gellir rhoi gwybod i'r heddlu drwy ffonio 101.

Cymorth i blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei gam-drin neu'n dioddef trais ar-lein

Mae llawer o sefydliadau y gall plant a phobl ifanc siarad â nhw'n ddienw, yn gyfrinachol ac am ddim, unrhyw adeg o'r dydd, am unrhyw beth sy'n eu poeni.

I gael manylion y sefydliadau hyn, cliciwch yma

Os bydd rhywun yn poeni am rywbeth mae wedi'i roi ar-lein ond nad yw'n barod i roi gwybod amdano, mae cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd.

So you got naked online?

Mae So you got naked online? yn helpu ac yn cynghori pobl ifanc a all fod mewn sefyllfa lle mae'r unigolyn (neu ffrind) wedi rhoi delwedd neu fideo secstio ar-lein ac mae wedi colli rheolaeth o'r cynnwys hwnnw, ac â phwy mae'n cael ei rannu.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan SWGfl

Cymorth i bobl sy'n poeni am blentyn neu berson ifanc

Mae llawer o sefydliadau y gall rhywun siarad â nhw'n ddienw, yn gyfrinachol ac am ddim, unrhyw adeg o'r dydd, os bydd yn poeni am blentyn neu berson ifanc.

I gael manylion y sefydliadau hyn, cliciwch yma

Os ydych yn poeni am rywbeth sydd wedi digwydd i rywun ar-lein yn benodol ond nad ydych yn barod i roi gwybod amdano, mae cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd.

Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol

Cafodd y Llinell Gymorth Diogelwch Ar-lein i Weithwyr Proffesiynol (POSH), a gydariennir gan y Comisiwn Ewropeaidd, ei sefydlu yn 2011 i helpu pob aelod o'r gymuned sy'n gweithio gyda phlant neu ar ran plant yn y DU gydag unrhyw faterion diogelwch ar-lein y gallan nhw, neu'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal, fod yn eu hwynebu.

Ffoniwch y llinell gymorth ar 0344 381 4772
Mae ar agor rhwng 10am a 4pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

E-bostiwch y llinell gymorth yn helpline@saferinternet.org.uk
Gallwch e-bostio unrhyw bryd a bydd y tîm yn ymateb o fewn oriau gwaith arferol.

Mae adnoddau a chanllawiau ar gael ar wefan SWGfl.

Ewch i wefan SWGfl

Rhoi gwybod am achosion o gam-drin neu drais ar-lein

Os byddwch yn dioddef trais neu gamdriniaeth ar-lein, neu'ch bod yn gwybod am rywun sy'n dioddef hynny neu'n ei achosi, mae'n bwysig iawn eich bod yn rhoi gwybod amdano os gallwch wneud hynny.

Asiantaeth Reoli Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein

Asiantaeth gorfodi'r gyfraith yw'r Asiantaeth Reoli Camfanteisio ar Blant a'u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP) sy'n mynd ati i gadw plant a phobl ifanc yn ddiogel rhag achosion o gamfanteisio'n rhywiol arnynt a'u cam-drin. Gallwch gysylltu ag un o Gynghorwyr Amddiffyn Plant CEOP os byddwch yn poeni amdanoch chi'ch hun neu rywun arall.

Gallwch gysylltu ar-lein bob awr o'r dydd.
Ewch i wefan CEOP

Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd

Mae Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd yn darparu gwasanaeth cyfrinachol a dienw lle gellir rhoi gwybod am ddelweddau a fideos o gam-drin plant yn rhywiol a delweddau nad ydynt yn rhai ffotograffig o gam-drin plant yn rhywiol.

Gallwch gysylltu ar-lein bob awr o'r dydd.
Ewch i wefan Sefydliad Gwarchod y Rhyngrwyd


Report Harmful Content

Canolfan adrodd genedlaethol yw Report Harmful Content sydd wedi'i chynllunio i helpu pawb i roi gwybod am gynnwys niweidiol ar-lein. Gall pobl roi gwybod am y canlynol:

  • Cam-drin Ar-lein
  • Bwlio neu Aflonyddu
  • Bygythiadau
  • Dynwared rhywun arall
  • Ymddygiad Rhywiol Nas Croesewir (nad yw'n seiliedig ar ddelweddau)
  • Cynnwys Treisgar
  • Cynnwys yn ymwneud â Hunan-niwed neu Hunanladdiad
  • · Cynnwys Pornograffig

Os ydych dros 13 oed, gallwch gael cyngor ar wefan Report Harmful Content, neu roi gwybod am achos arni.
Ewch i wefan Report Harmful Content

Canllawiau ac adnoddau i ymarferwyr a darparwyr gwasanaethau

Byddwn yn diweddaru'r adran hon wrth i ragor o ganllawiau gael eu cyhoeddi. Bydd pob dolen yn eich tywys i wefannau allanol.

Adnoddau:
Mae gwefan Thinkuknow yn darparu cyngor ac adnoddau sydd wedi'u teilwra i blant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol ynglŷn â chadw'n ddiogel ar-lein ̶ mae ar gael yma

​Mae gwefan Internet Matters yn darparu rhestrau gwirio diogelwch ar-lein sy'n benodol i oedran, canllawiau ar sut i osod rheolaethau rhieni ar amrywiaeth o ddyfeisiau ac amrywiaeth o gyngor ymarferol i helpu plant i aros yn ddiogel ar-lein ̶ mae ar gael yma

​Mae gan Childline dudalen we benodol sy'n llawn awgrymiadau ac adnoddau i helpu plant a phobl ifanc i aros yn ddiogel ar-lein, o chwarae gemau ar-lein i fwlio a meithrin perthynas amhriodol ar-lein ̶ mae ar gael yma

​Mae gwefan yr NSPCC yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau defnyddiol i rieni ac oedolion eraill i'w cefnogi i siarad â phlentyn neu berson ifanc am ddiogelwch ar-lein ̶ mae ar gael yma

Mae elusen SWGfl yn sicrhau bod plant yn cael budd o dechnoleg, heb ddod i unrhyw niwed. Mae ei gwefan yn cynnwys toreth o adnoddau i oedolion a gweithwyr proffesiynol, sydd ar gael yma

Mae Canolfan y DU ar gyfer Defnyddio'r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel yn darparu cyngor, awgrymiadau ac adnoddau er mwyn helpu plant a phobl ifanc i fwynhau eu hamser ar-lein mewn ffordd ddiogel a chadarnhaol ̶ maent ar gael yma

​Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiogelwch wedi ysgrifennu at bartneriaid diwydiant ar sut i fynd i'r afael â chamfanteisio'n rhywiol ar blant a cham-drin plant yn rhywiol yn ystod pandemig y coronafeirws ̶ mae ar gael yma

Canllawiau:


Mae SWGfl yn gweithredu tair llinell gymorth arbenigol – llinell gymorth i weithwyr proffesiynol ynglŷn â diogelwch ar-lein, llinell gymorth pornograffi dial a llinell gymorth cynnwys niweidiol. Er mwyn helpu galwyr i gysylltu â'r lle cywir, mae wedi llunio siart llif ddefnyddiol gyda manylion pob gwasanaeth ̶ mae ar gael yma