Jump to content

Fframwaith Gwerthuso

Ar gyfer pwy y mae'r rhaglen hon?

Pob darparwr gwasanaethau ymyrryd yng Nghymru.

Beth mae'r prosiect yn ei gynnwys?

Nid yw llawer o agweddau ar atal trais yn cael eu gwerthuso ar hyn o bryd, ac mae hyn yn ei gwneud yn anodd penderfynu beth sy'n gweithio orau.

Rydym yn gweithio gyda Phrifysgol John Moores Lerpwl i ddatblygu fframwaith gwerthuso y gellir ei ddefnyddio ar gyfer yr holl weithgarwch sy'n ymwneud ag atal trais. Bydd y fframwaith ar gael i bob darparwr gwasanaethau ymyrryd yng Nghymru i gefnogi ein partneriaid fel y gellir gwerthuso eu gwasanaethau yn gywir er mwyn sicrhau eu bod yn cael yr effaith fwyaf bosibl.