Beth yw Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV)?
Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn cyfeirio at weithredoedd treisgar neu achosion o gam-drin sy'n effeithio'n anghymesur ar fenywod. Fodd bynnag, gwyddom y gall unrhyw un ddioddef y mathau hyn o drais, sy'n cynnwys:
- Trais ar sail rhywedd Trais rhwng partneriaid agos
- Trais a cham-drin domestig
- Trais a cham-drin rhywiol
- Rheolaeth drwy orfodaeth
- Priodas dan orfod
- Priodas plentyn
- Cam-drin ar sail anrhydedd fel y’i gelwir
- Anffurfio organau cenhedlu benywod
- Masnachu pobl
- Aflonyddu rhywiol
- Seiberaflonyddu
- Trais mewn perthnasoedd ymhlith pobl ifanc.
Gall VAWDASV ddigwydd i unrhyw un, unrhyw bryd ond mae rhai menywod a merched yn arbennig o agored i niwed, er enghraifft menywod ifanc, menywod lesbiaidd, deurywiol, trawsryweddol neu ryngrywiol, mudwyr a ffoaduriaid, menywod brodorol a lleiafrifoedd ethnig, neu fenywod a merched sy'n byw gyda HIV ac anableddau a'r rhai sy'n byw drwy argyfyngau dyngarol.
Effaith Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (VAWDASV) yn broblem iechyd y cyhoedd ddifrifol, yn fater cyfiawnder troseddol, ac yn torri hawliau dynol. Mae'n peri niwed i unigolion a theuluoedd, a gellir teimlo ei effaith ar draws cymunedau, cymdeithasau ac economïau cyfan.
Ni ellir mesur gwir effaith VAWDASV yn ddigonol. Fodd bynnag, gall y mathau hyn o drais effeithio ar ddioddefwyr mewn llawer o ffyrdd. Er enghraifft, gall trais rhywiol arwain at nifer mawr o ganlyniadau iechyd, gan gynnwys niwed corfforol, atgenhedlol a seicolegol. Gall anffurfio organau cenhedlu benywod arwain at risgiau iechyd uniongyrchol ynghyd ag amrywiaeth o gymhlethdodau hirdymor a all effeithio ar iechyd a llesiant corfforol, meddyliol a rhywiol yr unigolyn drwy gydol ei hoes.
Dull Iechyd y Cyhoedd o Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Mae egwyddorion iechyd y cyhoedd yn cynnig fframwaith defnyddiol i ymchwilio i achosion a chanlyniadau VAWDASV a'u deall, a'i atal rhag digwydd.
Mae Cynghrair Atal Trais Sefydliad Iechyd y Byd yn disgrifio pedwar cam i ddefnyddio dull iechyd y cyhoedd o atal trais. Mae'r pedwar cam hyn wedi cael eu defnyddio'n llwyddiannus i roi gweithgareddau atal trais ar waith ym mhedwar ban byd:
Yn ôl gwyddoniaeth atal ym maes iechyd y cyhoedd, mae tair haen ymyrryd. Mae dull systematig a chymdeithas gyfan o atal VAWDASV yn sicrhau y caiff ymyriadau eu cyflwyno ar draws y sbectrwm atal.
Atal Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yng Nghymru
Cymru Heb Drais - Fframwaith ar y Cyd ar gyfer Atal Trais ymhlith Plant a Phobl Ifanc PDF
Gan Uned Atal Trais Cymru a Gydweithredfa Cyfoedion Cymru